Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (52)v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 mins)
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 mins) |
3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru (30 munud) |
4. Dadl: Diwygio Budd-dal Tai (60 munud) NDM4934 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at yr effaith y bydd newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai yn ei chael ar bobl dlotaf Cymru; 2. Yn nodi’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w wneud gyda rhanddeiliaid i helpu pobl i ymdopi â’r newidiadau. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: [os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 a 4 yn cael eu dad-ddethol] Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le: Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i fudd-dal tai, sy'n angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg a gafodd ei adael gan y Llywodraeth Lafur flaenorol. 2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i gynnwys cymorth tai mewn Credyd Cynhwysol. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1 ‘gan gynnwys gweithwyr sydd ar gyflog isel’. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu fel pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: 2. Yn nodi’r adroddiad gan Cuts Watch Cymru ‘Cymru ar y Dibyn’ a’i argymhellion yng nghyswllt y newidiadau i fudd-dal tai. Mae linc i’r adroddiad ar gael drwy fynd i: http://www.cutswatchcymru.org/ Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2: ‘, ond yn credu ei bod yn amser rhoi'r gorau i siarad â Rhanddeiliaid ac yn amser dechrau modelau cyflenwi da' Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi bod ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol y DU ar Fudd-dal Tai yn dangos mewn rhai ardaloedd bod Budd-dal Tai yn gallu cefnogi cwsmeriaid i fyw mewn llety na all nifer o bobl sydd mewn gwaith ei fforddio, ac yn dadlau bod angen rhagor o ddiwygiadau. Gellir gweld ymgynghoriad Llywodraeth flaenorol y DU ar Fudd-dal Tai drwy fynd i: http://www.dwp.gov.uk/consultations/2009/supportingpeopleintowork.shtml
|
5. Dadl: Strategaeth yr Iaith Gymraeg 2012-17 (60 munud)
NDM4935 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw, a fabwysiadwyd yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, wedi’i chyhoeddi; a 2. Yn nodi ymhellach yr ymrwymiad sydd yn y Strategaeth i weld y Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru a chynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith. Mae Strategaeth y Gymraeg, Iaith fyw: iaith byw i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn:
http://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/publications/wlstrategy2012/?skip=1&lang=cy Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro lefel y cyfranogiad a fydd gan sefydliadau gwirfoddol, annibynnol a phreifat wrth gyflenwi’r strategaeth. Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi gyda phryder y ffaith bod nifer y cymunedau lle mae dros 70 y cant o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn ôl y cyfrifiad diwethaf. Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith. Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i gynnwys mesurau i adfywio'r Gymraeg fel iaith gymunedol yn ei rhaglen ddeddfwriaeth. Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar y Llywodraeth i adnabod y gyllideb sy'n angenrheidiol i wireddu'r strategaeth. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd.
|
Cyfnod Pleidleisio
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 14 Mawrth 2012